Mae taith gerdded yr wythnos hon yn mynd â ni i ben Cwm Rhondda Fach. Mae hon yn daith gerdded 6 milltir yno ac yn ôl o amgylch Cronfeydd Dŵr Castell Nos a Lluest Wen. Gan anelu tua'r gogledd o'n man cychwyn wrth Gofeb Porth Maerdy, rydym yn cerdded ar hyd glannau Afon Rhondda Fach heibio i safle hanesyddol castell canoloesol Castell Nos, rhai rhaeadrau a choredau nes i ni gyrraedd y cronfeydd dŵr. Mae'r llwybr i'r gronfa ddŵr yn llethr ysgafn o 150 metr dros y 3 milltir cyntaf ar hyd llwybrau troed, llwybrau graean a llwybrau ceffylau. Mae'r llwybr yn lefelu ar ôl mynd trwy'r fferm wynt cyn disgyn yn ôl i'n man cychwyn. Nid oes caffis ar y ffordd felly dewch â bwyd a dŵr.
Mae hon yn Daith Gerdded Gradd 3 o 6 milltir a 4 awr