Digwyddiad am ddim yw hwn sydd wedi'i gynllunio i ddarparu cefnogaeth a chodi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl dynion i'r rhai sy'n byw yn ardal Gwent. Byddwch yn cael cwrdd a rhwydweithio â grwpiau iechyd meddwl lleol, eich cyfoedion a gweithwyr proffesiynol wyneb yn wyneb a chasglu gwybodaeth ac adnoddau gwych ar y noson.
Mae ar agor i bawb felly mae croeso i chi ddod â ffrind neu aelodau o'ch teulu gyda chi.
Bydd y Marauders yn arddangos yn y digwyddiad ac maent yn falch o fod yn gysylltiedig â'r fenter wych hon.