Bydd Ceri Morgan yn ein harwain ar daith wib yng Nghymoedd y Rhondda. Bydd hon yn daith gerdded gylchol 8.5 milltir o hyd. Mae rhai llwybrau troed yn rhan isaf y Rhondda wedi'u cysylltu i wneud y llwybr hwn yn bosibl. Gan ddechrau yn y Porth, sef y porth i'r cymoedd, rydym yn mentro i Glwb Golff y Rhondda gan ddringo dringfa serth. Rydym yn cael ein gwynt yn ôl am bum munud wrth i ni barhau â rhan o Lwybr y Pererinion i lawr i bentrefi Trealaw yna Dinas. Yna rydym yn dringo eto i bentref Trebanog gan ddisgyn yn y pen draw tuag at Lofa Lewis Merthyr – Parc Treftadaeth y Rhondda bellach lle rydym yn gwneud ein ffordd i'n pwynt terfyn yn ardal fach Llwyncelyn. Bydd yna ychydig o ffyrdd i'w croesi ar ein taith gerdded felly byddwch yn ymwybodol.
Mae hon yn daith gerdded Gradd 4 o 4 awr ac 8.5 milltir